Mae Mentrau Iaith Cymru yn cydweithio â phartneriaid i ddatblygu Cynllun Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg sydd â’r potensial, trwy ei weithreadu’n llawn ac yn eang, i newid rhagylygon hir dymor y Gymraeg drwy:

-        Datblygu’r Gymraeg fel catalydd economaidd

-        Datblygu’r Gymraeg fel cyfrwng i ddatblygu economaidd ac adfywio

-        Adnabod y galw am, ac ehangu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg

-        Cyplysu’r angen efo cyfleoedd gwaith a hyfforddiant

-        Adnabod a pherchnogi cyfleoedd economaidd

Credwn fod iechyd y Gymraeg yn ddangosydd cymdeithasol effeithiol o sut mae economi Cymru wedi cael ei ddatblygu dros y canrifoedd.  Mae’r Cymry Cymraeg wedi bodoli fel cymdeithas ieithyddol a diwylliannol heb fawr o rym economaidd. Nid oes troedle economaidd digonol wedi bod i gynnig cynhaliaeth. Gwaith wedi'r cwbl mwy na dim sydd yn hoelio pobl lawr i ddarn o dir.  Credwn os lwyddwn i wyrdroi sefyllfa’r Gymraeg byddwn hefyd yn creu economi a chymdeithas fwy cynaliadwy ac yn creu dyfodol hir dymor i’r Gymraeg.

Yn ôl gwaith ymchwil gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2010) ar ddemograffeg flynyddol siaradwyr Cymraeg, mae’r ffactorau sydd yn gwanhau sefyllfa’r Gymraeg yn deillio o ddiffyg cyfleoedd gwaith, yn benodol gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd yn ei dro yn arwain at sefyllfa o allfudo o Gymru. Amcangyfrifwyd bod colled flynyddol o 3,000 o siaradwyr Cymraeg.

"Around a third of 1991’s 15-year-old Welsh-speakers had migrated to England by 2001.”
(Delyth Morris (2010) ‘Welsh in the 21st Century’, Cardiff; University of Wales Press).

Ar un llaw rydym yn dioddef allfudiad brawychus o bobl ifanc sydd yn medru’r Gymraeg, neu pobl ifanc sydd yn medru’r Gymraeg sy ddim yn ei defnyddio, tra ar y llaw arall rydym yn dioddef o ddiffyg gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.  Mae hyn yn ein rhwystro i fyw ein bywydau beunyddiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond credwn mai dyma ble mae un o brif wendidau ac un o brif obeithion y Gymraeg yn gorwedd.

Mae modd ini newid y sefyllfa. Mae Addysg Gymraeg – sydd ar gynnydd - yn creu mwy a mwy o siaradwyr bob blwyddyn ac mae modd cynyddu’r raddfa trosglwyddo iaith o un genhedlaeth i’r llall trwy gynlluniau fel Twf.  Mae yna hefyd gynlluniau penodol gan gyrff amrywiol i annog a hwyluso’r defnydd o’r iaith.  Mae datblygiadau diweddar o ran y Gymraeg wedi rhoi statws i’r iaith. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cryfhau’r  ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwn y Gymraeg. Gwelwn hwn fel gyriant i’r angen am Farchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg fydd yn cyplysu sgiliau efo anghenion gwasanaeth. 

Ar hyn o bryd nid oes cynllun penodol sydd yn dylanwadu ar ffactorau megis mewnfudo, allfudo a gwerth economaidd y Gymraeg. O’r wybodaeth yr ydym wedi casglu drwy weithio yn gymunedol ar draws Cymru, mae sawl her yn bodoli ar hyn o bryd sydd angen eu taclo:

-        Yn hanesyddol mae’r Gymraeg wedi dioddef o ddiffyg statws economaidd

-        Nid yw’r sgil o siarad Cymraeg yn cael ei gydnabod gan ganran uchel o gyflogwyr

-        Mae siaradwyr Cymraeg ifanc yn gadael Cymru a’u bröydd genedigol i chwilio am waith

-        Mae nifer fawr sydd yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn colli’r iaith oherwydd diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle tu hwnt i addysg ffurfiol

-        Does dim trosglwyddo iaith yn digwydd o fewn nifer o deuluoedd oherwydd diffyg statws a gwerth i’r Gymraeg.

-        Mae anhawster cyson i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg

-        Mae nifer isel iawn o ddysgwyr yn dod yn rhugl yn y Gymraeg

Yn galonogol, mae esiamplau yn bodoli o sefyllfaoedd yn roi gwerth economaidd i’r Gymraeg mewn rhai ardaloedd, megis Caernarfon a Chaerdydd e.e. lle gwelir cynydd yn y % o siaradwyr Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2011.  Gall gweld llawer o Mentrau Iaith a chyrff eraill yn dylanwadu ar y Farchnad Lafur trwy greu Marchnadoded Llafur lleol Cymraeg ei hiaith. Yn achos y Mentrau maent yn cyflogi canoedd o bobl yn lleol i gynnig gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd i siaradwyr Cymraeg berchnogi sectorau pwysig yn eu hardaloedd: ceir enghreifftiau penodol o’r Mentrau yn dylanwadu ar y nifer a’r canran o weithwyr mewn meysydd penodol trwy ddatblygu prosiectau a chynlluniau ar sail anghenion a chyfleoedd lleol, e.e. yn y maes awyr agored yng Ngogledd Cymru ac yn y meysydd gofal plant a chwarae yn y De.  Mae’r un peth yn wir am fudiadau a chyrff eraill sydd yn cyflogi a chreu cyfleoedd gwaith cyfrwng Cymraeg, ond mae yna botensial enfawr i greu mwy o swyddi a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg, mewn mwy o feysydd, mewn mwy o ardaloedd.  Ein bwriad felly yw ehangu ar y gwaith yma drwy ddatblygu’r Cynllun Marchnad Lafur yn genedlaethol er mwyn gosod seiliau cadarnach i’r Gymraeg trwy’r economi.